TEITHIAU YN Y BRAGDY
Dewch i weld yr hyn sy’n digwydd yma. Gallwn drefnu teithiau ar gyfer grwpiau bach neu fawr, a chewch brofiad ymarferol gan un o’n tywyswyr bragdy hyfforddedig.
Os ydych am gael ffeithiau, gofynnwch. Os ydych am brofi’r aroglau, aroglwch. Ac os ydych am flasu’r blasau digamsyniol, blaswch!
Mae’r teithiau’n para oddeutu hanner awr, yna byddwch yn dychwelyd i’r bar ar gyfer y sesiwn flasu barchus, a bwffe bach, ond blasus.
I holi ynghylch taith mewn Bragdy Hurns, e-bostiwch shop@tomoswatkin.com


